Mae modd i chi ffonio am sgwrs anffurfiol, 01443 425007, neu lenwi ffurflen ymholiad nawr a bydd aelod o'n carfan yn eich ffonio yn ôl ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Mae'r Rhwydwaith Maethu ynghyd â darparwyr maethu annibynnol wedi datblygu canllaw arfer gorau i helpu i symud rhieni maeth rhwng sefydliadau. Cafodd y canllaw yma ei gyhoeddi gyda chymorth Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau i Blant. Rydym yn dilyn y canllaw yma fel y bydd eich trosglwyddiad i ni mor syml ag y gall fod. Felly hyd yn oed os ydych chi eisoes yn maethu gyda sefydliad arall ac mae gennych blentyn neu berson ifanc mewn lleoliad, mae modd i chi barhau i drosglwyddo i ni.
Mae llawer o resymau pam mae pobl eisiau maethu ar gyfer eu Hawdurdod Lleol. Rydym eisoes wedi croesawu llawer o rieni maeth o sefydliadau eraill a dyma rai o'r rhesymau pam roedden nhw am faethu ar ein cyfer:
- Roedden nhw'n yn deall pwysigrwydd cefnogi plant a phobl ifanc yn eu hardal a'r manteision ychwanegol a all ddod yn eu sgil o ran amseroedd teithio llai i'r ysgol, ymweliadau ac ati.
- Roedden nhw am weithio gyda gwasanaeth maethu Awdurdod Lleol nad yw'n gwneud elw ac sydd ond â'r budd gorau i'r plentyn neu'r person ifanc mewn golwg.
- Nid oedd lleoliadau gyda'u cyn sefydliad maethu mor gyson ag oedden nhw'n dymuno ac nid oedden nhw'n ddelfrydol, o ran paru.
Caiff pob cais am drosglwyddiad ei drin yn ôl ei deilyngdod ac mae modd cwblhau rhai yn gymharol gyflym, yn dibynnu ar y sefyllfa. Os ydych chi'n meddwl am drosglwyddo yna ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01443425007, neu llenwch ffurflen ymholiad nawr a bydd aelod o'n carfan yn eich ffonio yn ôl ar adeg sy'n gyfleus i chi.