Gall hyd lleoliad amrywio o ychydig ddyddiau yn unig hyd at nifer o flynyddoedd. Mae angen gofal maeth ar rai plant o'u genedigaeth ac mae'n bosibl y bydden nhw'n aros yn y system ofal y tu hwnt i 18 oed. Mewn rhai achosion mae plant yn dychwelyd i'w teuluoedd biolegol, efallai y bydd angen cefnogi rhai gyda gofal maeth parhaus hyd nes y bydden nhw'n gallu byw'n annibynnol, a chaiff rhai plant symud o ofal maeth i gael eu mabwysiadu'n fwy parhaol.
Mae sawl gwahanol fath o leoliad maethu ar gael. Fel rhiant maeth cymeradwy i'ch awdurdod lleol, bydd cyfle i chi ystyried pob un o'r mathau o leoliad a nodir isod.
Maethu tymor byr
Mae'n debyg mai hwn yw'r math mwyaf cyffredin o leoliad gofal maeth. Pan fydd plentyn yn dod i mewn o dan ofal ei awdurdod lleol yn y lle cyntaf, fel arfer bydd yn cael lleoliad tymor byr. Tra bydd wedi'i leoli, bydd yr awdurdod lleol yn gweithio i ddod o hyd i gartref parhaol i'r plentyn. Lle y bo'n bosibl, byddem yn gobeithio y bydd modd i'r plentyn ddychwelyd at ei rieni biolegol, ond efallai y bydd angen i ni edrych ar leoliad maethu mwy hirdymor neu fabwysiadu. Beth bynnag fo'r amser a gaiff ei roi mewn lleoliad tymor byr, cyfrifoldeb y rhiant maeth yw darparu cartref diogel, sefydlog a chariadus i'r plentyn pan fydd arno ei angen fwyaf.
Maethu Tymor Hir
Os bydd penderfyniad yn cael ei wneud nad oes modd i'r plentyn ddychwelyd i'w deulu biolegol, yna bydd lleoliad maethu tymor hir yn cael ei ystyried. Byddai'r math hwn o leoliad yn caniatáu i blentyn aros mewn cartref sefydlog a diogel nes ei fod yn barod i fyw'n annibynnol yn 18 oed neu'n hŷn. Bydd darparu gofal maeth tymor hir i blentyn yn rhoi'r amgylchedd sydd ei angen arno i ffynnu a chyrraedd ei lawn botensial.
Maethu rhiant a phlentyn
Mae dod yn rhiant am y tro cyntaf yn gromlin dysg enfawr i unrhyw un, ond efallai bydd hyn yn anoddach fyth i berson ifanc iawn neu berson ag anabledd sydd heb fawr o gymorth gan ei deulu. Bydd gofal maeth am leoliad rhiant a phlentyn yn golygu darparu cartref i'r rhiant a'r plentyn. Nod y rhiant maeth fydd darparu goruchwyliaeth, cyngor a chefnogaeth i'r rhiant er mwyn iddyn nhw allu gofalu am eu plentyn yn annibynnol yn y dyfodol.
Cymorth seibiant
Bydd angen gofalu am rai plant am gyfnod byr er mwyn rhoi seibiant i'w teulu. Gelwir y cyfnodau yma yn ofal seibiant. Efallai bydd y cyfnod yma o gyn lleied â phenwythnos y mis neu i roi'r cyfle i'r teulu fynd ar wyliau. Mae gofal seibiant yn ffordd bwysig o atal teulu rhag chwalu gan ei fod yn rhoi seibiant i rieni neu rieni maeth eraill. Efallai mai gofal seibiant yw'r unig fath o ofal maeth mae modd i chi ei ddarparu, neu efallai bod modd ei gynnig yn ogystal â lleoliadau tymor byr a thymor hir eraill.
Llety â Chymorth
Ar gyfer pobl ifanc 16-21 oed sy'n gadael gofal ac yn datblygu sgiliau byw'n annibynnol. Drwy gynnig llety â chymorth, byddwch chi'n darparu llety diogel â chymorth lle y mae modd i'r rheiny sy'n gadael gofal ddefnyddio'r cyfleusterau a datblygu sgiliau fel coginio, gwaith tŷ a chyllidebu. Bydd y person ifanc hefyd yn cael cymorth gan y gwasanaeth 16 oed a hŷn. Dydy'r rheiny sy'n darparu llety â chymorth ddim â'r un cyfrifoldebau cyfreithiol â rhieni maeth.
Gofal mewn argyfwng
Mae adegau pan fydd angen gosod plentyn mewn lleoliad ar unwaith ar fyr rybudd. Mae angen amgylchedd saff a diogel ar gyfer y lleoliadau brys yma am ddiwrnod, hyd at wythnos. Bydd rhai rhieni maeth yn hyfforddi'n benodol ar gyfer y math hwn o leoliad.